Saunders Lewis
Gwir fwriad Saunders Lewis gyda’r ddarlith Tynged yr Iaith oedd “milwreiddio” Plaid Cymru.
Dyna honiad yr hanesydd John Davies wrth nodi 50 mlwyddiant y sgwrs radio a arweiniodd at greu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Ond nid mudiad di-drais fel y Gymdeithas oedd nod Saunders Lewis, meddai awdur Hanes Cymru ac un o sylfaenwyr y mudiad.
“I ddweud y gwir mae’r Gymdeithas yn esiampl o anufuddhau i Tynged yr Iaith,” meddai John Davies wrth Golwg 360.
Y ddarlith
Fe gafodd y ddarlith ei thraddodi ar 13 Chwefror 1962 a, chyn hynny, doedd Saunders Lewis ddim wedi ymyrryd yn y byd gwleidyddol ers 1943 ac, yn ôl yr hanesydd roedd yn cael ei weld yn ffigwr tebyg i’r Cadfridog de Gaulle yn Ffrainc.
Gan fod pennaeth BBC Cymru, Aneirin Talfan Davies, wedi ceisio perswadio Saunders Lewis i roi darlith radio nifer o weithiau cyn hynny, fe gytunodd yn y diwedd ar yr amod ei fod yn neges uniongyrchol i aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru.
Yn dilyn yr araith, roedd Saunders Lewis yn ddiolchgar iawn am y cyfle i ddweud ei farn, ond, yn ôl John Davies, yn “sur am ddatblygiadau heddychlon Gwynfor Evans”.
Digwyddiadau Cofio ‘Tynged yr Iaith’
Ymhlith llu o ddigwyddiadau i gofio am y ddarlith, fe fydd Cymdeithas yr Iaith a Gwasg Gomer yn cynnal digwyddiad yn Aberystwyth nos Lun i lansio argraffiad newydd o’r ddarlith a rybuddiodd fod peryg i’r iaith farw erbyn dechrau’r ganrif hon.
Ned Thomas, awdur llyfr The Welsh Extremist am yr ymgyrch iaith, fydd un o’r rhai’n siarad yn y lansiad yng Nghanolfan y Morlan yn y dref.
Ef sydd wedi sgrifennu’r rhagair i’r argraffiad newydd a dyma un dyfyniad: “Os ydym yn credu yn y dyfodol, mae testun Tynged yr Iaith yn perthyn i ni nid fel clasur marw ond fel testun sydd ar gael i ni yn y presennol, i ddethol ohono, i’w ddehongli, i’w wrthod yn rhannol neu’n gyfan gwbl.”