Whitney Houston (asterix611)
Bu farw’r gantores o’r Unol Daleithiau, Whitney Houston, yn 48 oed.
Dywed yr heddlu ei bod wedi marw yn ei hystafell yng ngwesty’r Beverly Hilton yn Los Angeles.
Ar hyn o bryd, nid yw’n glir beth achosodd ei marwolaeth.
Roedd Whitney Houston yn un o brif gantoresau ei chyfnod, ac mae’n debyg mai’r gân y mae pawb yn cysylltu â hi yw I Will Always Love You, a gyfansoddwyd gan Dolly Parton. Dywedodd Parton ei bod wedi torri ei chalon wrth glywed y newyddion am farwolaeth Houston.
Roedd canu a cherddoriaeth yng ngwaed Whitney Houston. Roedd ei mam, Cissy Houston, yn gantores gospel, mi roedd Whitney yn gyfnither i’r enwog Dionne Warwick ac yn ferch fedydd i gantores wych arall, Aretha Franklin.
Fe gafodd y camddefnydd o gyffuriau a’i phriodas dymhestlog â’r canwr Bobby Brown effaith andwyol ar yrfa ddisglair Whitney Houston. Mi wnaeth y ddau ysgaru yn 2007. Mae’n gadael un ferch, Bobbi Kristina.