Arlywydd Bashar Assad
Mae lluoedd Syria yn parhau i ymosod yn ddidrugaredd ar ddinas Homs – yr ymosodiadau gwaetha’ ers i’r gwrthryfel ddechrau ym mis Mawrth y llynedd.

Yn ôl adroddiadau mae cannoedd o bobl wedi eu lladd ers i’r ymosodiadau ddechrau ddydd Gwener diwethaf.

Cafodd o leia 12 o bobl eu lladd bore ma ond dywed grwpiau hawliau dynol eu bod hi’n anodd darganfod faint yn union sydd wedi eu lladd yn yr ymosodiadau oherwydd yr anrhefn yn y ddinas.

Mae’r Arlywydd Bashar Assad yn ymosod ar gadarnleoedd y gwrthryfelwyr sy’n ceisio ei ddisodli.