Mae byddin Syria wedi dechrau ymosod ar ddinas Homs heddiw, yn ôl adroddiadau.

Dywedodd grŵp o weithredwyr yn y wlad bod ysbyty dros dro wedi cael ei daro yn yr ymosodiad. Yn ôl rhai adroddiadau roedd o leia 12 o bobl wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad.

Daw’r ymosodiad diweddara ddeuddydd ar ôl ymosodiad ffyrnig a oedd wedi lladd mwy na 200 o bobl mewn un  diwrnod.

Mae Rwsia a China wedi cael eu beirniadu am fethu â chefnogi ymdrech gan y Cenhedloedd Unedig i ddod â diwedd i’r trais yn y wlad.