Mae’r Frenhines heddiw yn dathlu 60 mlynedd ers iddi gael ei choroni.

Fe gyhoeddodd heddiw y byddai’n parhau i wasanaethu’r genedl a’i phobl.

Wrth ddathlu ei Jiwbili Diemwnt, mae’r Frenhines wedi diolch i bobl am eu “cefnogaeth a’u hanogaeth” dros y 60 mlynedd diwethaf.

Fe fydd cyfres o ddathliadau’n cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf i nodi’r achlysur.