Vladmir Putin
Mae degau o filoedd o brotestwyr wedi tyrru i ganol dinas Moscow yn Rwsia heddiw er mwyn galw ar Vladimir Putin i gamu o’r neilltu.
Roedd torf anferth yn y brifddinas er gwaetha’r tywydd rhewllyd, llai na mis cyn etholiad arlywyddol y mae disgwyl i Vladmir Putin ei ennill.
Yn ôl y trefnwyr roedd 120,000 wedi cymryd rhan y yn y brotest. Dyma’r trydydd brotest o’r fath ers i blaid Vladmir Putin ennill yr etholiad cyffredinol ar 4 Rhagfyr.
Roedd honiadau bryd hynny ei fod wedi sicrhau mwyafrif drwy dwyll ar raddfa eang.
Y protestiadau yw’r mwyaf o’u bath yn y wlad ers yr ymgyrch 20 mlynedd yn ôl arweiniodd at ddiwedd yr Undeb Sofietaidd.
Roedd y dorf yn llafarganu “Rwsia heb Putin” wrth iddyn nhw orymdeithio drwy Moscow mewn tymheredd – 20C, llai na milltir o’r Kremlin.
Ni amharodd yr heddlu ar y brotest heddychlon.
Trefnwyd protest gwrth-Putin arall yn St Petersburg gan ddenu 5,000 o bobol, ac fe gynhaliwyd protestiadau bach mewn trefi a dinasoedd eraill.
Roedd yna hefyd orymdaith o blaid Putin yn Moscow, ond dim ond ryw 20,000 gymerodd ran.