Mae swyddogion yng Ngwlad Groeg wedi ymateb yn chwyrn i gynllun awgrymwyd gan yr Almaen i benodi Comsiynydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd i oruchwylio system drethi a gwariant y wlad.

Dywedodd y llefarydd ar ran y llywodraeth bod yn rhaid i Wlad Groeg fod yn gyfrifol am ei chyllideb ei hun.

Crêd yr UE bod angen cryfhau’r drefn o fonitro y gyllideb Groegaidd gan gydnabod y dylai’r wlad gadw ei rheolaeth sofrannol.

Yn y cyfamser ymddengys bod Gwlad Groeg ar fin dod i gytundeb efo buddsoddwyr preifat, fydd yn caniatau i ran arall o daliad ariannol gael ei dalu i’r wlad. Rhaid i lywodraeth Gwlad Groeg dalu llawer o ddyledion ym mis Mawrth.

‘Dyw cynllun yr Alamenwyr ddim wedi cael ei gyhoeddi’n swyddogol. Cafwyd achlust ohono cyn y cyfarfod rhwng arweinwyr yr UE ym Mrwsel yfory ble y bydd cytundeb ariannol newydd yn cael ei drafod.

Mae yn ymddangos beth bynnag bod rhai gwledydd o fewn yr UE, gan gynnwys yr Alamen yn colli amynedd efo methiant gwlad Groeg i gyrraedd targedau ariannol ac ad-drefnu’r sector gyhoeddus yno.