Y Costa Concordia
Mae tâp sain newydd yn dangos fod capten y llong a suddodd ger glannau’r Eidal wedi dianc o’r llong ac, am gyfnod, wedi gwrthod mynd yn ôl i arwain y gwaith o achub y teithwyr.

Yn y diwedd, roedd gwylwyr y glannau wedi gorchymyn iddo fynd yn ôl ond dyw hi ddim yn glir a wnaeth hynny.

Roedd y capten Francesco Schettino wedi hawlio mai ef oedd yr ola’ i adael y llong ond mae’r tâp sain yn dangos ei fod wedi gadael a mynd ar gwch achub cyn cael sgwrs gyda gwylwyr y glannau.

Mae pump yn rhagor o gyrff wedi eu darganfod yng ngweddillion llong bleser y Costa Concordia, gan godi’r cyfanswm hyd yma i 11.