Vladmir Putin
Mae Prif Weinidog Rwsia, Vladimir Putin, wedi gwrthod galwadau gan ymgyrchwyr am gynnal ail etholiad cyffredinol.

Dim ond o drwch blewyn y cadwodd plaid Rwsia Unedig Vladimir Putin eu mwyafrif ar 4 Rhagfyr, er gwaethaf honiadau eu bod nhw wedi twyllo.

Mae degau o filoedd o ymgyrchwyr bellach wedi galw ar Vladmir Putin i gamu o’r neilltu, ac fe gynhaliwyd protest yr wythnos diwethaf oedd ymysg y mwyaf ers chwalu’r Undeb Sofietaidd 20 mlynedd yn ôl.

Mae Vladmir Putin wedi wfftio’r protestwyr gan honni eu bod nhw’n gwneud gwaith budr gwledydd y gorllewin.

“Y broblem â’r gwrthbleidiau ydi nad oes ganddyn nhw gynllun, na chwaith modd clir a dealladwy o gyflawni eu nod,” meddai Vladmir Putin.

“Does ganddyn nhw ddim arweinwyr sy’n gallu gwneud unrhyw beth o werth. Ni fydd yr etholiad yn cael ei adolygu.”

Awgrymodd y dylid gosod camerâu gwe mewn gorsafoedd pleidleisio, a bocsys tryloyw, er mwyn sicrhau fod etholiadau’n deg.

“Fel ymgeisydd, dydw i ddim eisiau unrhyw dwyllo,” meddai Vladmir Putin. “Rydw i eisiau i ganlyniad yr etholiad fod yn glir. Rydw i eisiau dibynnu ar ewyllys y bobol.”