Sengl enillydd yr X Factor yw’r anrheg Nadolig mwyaf amhoblogaidd ym Mhrydain, yn ôl arolwg newydd.

Roedd chwarter o’r rheini a holwyd gan elusen y British Heart Foundation yn dweud mai CD enillydd y gyfres oedd y peth olaf yr oedden nhw ei eisiau ei dderbyn dros y Nadolig.

Roedd anrhegion amhoblogaidd eraill yn cynnwys dillad isaf egr, teis swnllyd, fframiau delweddau digidol, sbaon troed, tronsiau a sanau.

Mae’r elusen wedi galw ar bobol i roi eu hanrhegion digroeso iddyn nhw er mwyn codi arian tuag at ymchwilio i atal clefyd y galon.

Llwyddodd yr elusen i godi £26 miliwn y llynedd wrth werthu anrhegion Nadolig digroeso.