Oes gafr eto?
Mae gafr ar ffo ar ôl dianc o ddrama’r geni mewn eglwys yn yr Unol Daleithiau.

Roedd gan yr afr tair oed rhan ymylol yn y gwasanaeth yn Eglwys Bethlehem yn Fergus Falls, talaith Minnesota.

Ond llwyddodd yr afr i ddianc a does dim golwg ohoni hyd yn hyn.

Dywedodd perchennog yr afr, Jim Aakre, ei fod wedi ceisio ei dal am ddwy awr ond fod y diffyg eira yn ei gwneud hi’n anodd olrhain llwybr yr anifail.

Mae’r afr wedi ei gweld sawl gwaith ers iddi ddenig ond dyw’r heddlu heb lwyddo i gael gafael arni hyd yn hyn.

Yn ôl papur newydd y Fergus Falls Journal roedd Jim Aakre hefyd wedi darparu dau lama a dau gi bach ar gyfer y gwasanaeth.