Cafodd milwr oedd ar wythnos o wyliau cyn gadael am Afghanistan ei ladd mewn gwrthdrawiad car ar ddydd Nadolig, cyhoeddwyd heddiw.

Fe fu farw Edward Heal, 19, yng Ngwlad yr Haf am 1.15am.

Roedd wedi bod yn hyfforddi ar gyfer taith i Afghanistan fyddai wedi dechrau ym mis Mawrth.

Dywedodd ei fam Elaine Coles, 60, wrth bapur newydd y Western Daily Press nad oedd hi’n gallu credu beth oedd wedi digwydd.

“Roeddwn i wedi bod yn pryderu am ei ddiogelwch yn Afghanistan ers iddo ymuno â’r fyddin,” meddai hi.

“Roedd e wedi dweud wrtha’ i unwaith ei fod yn fwy tebygol o gael ei daro gan gar na chael ei ladd ar faes y frwydr.

“Alla’i ddim credu’r peth. Mae ei anrhegion Nadolig yn dal wrth y goeden Nadolig.”

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod ymchwiliad ar waith er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.