Ymweliad Pab Benedict - rheswm arall i ryddhau'r carcharorion
Bydd Ciwba yn rhyddhau 2,900 o garcharorion yn ystod y dyddiau nesaf, yn cynnwys rhai carcharorion gwleidyddol.

Dywedodd yr Arlywydd Raul Castro fod hyn yn cael ei wneud fel arwydd o ewyllys da yn dilyn nifer o geisiadau gan berthnasau a sefydliadau crefyddol.

Dywedodd y bydd 60 o garcharorion tramor o 25 gwlad ymysg y rhai fydd yn cael eu rhyddhau.

Ond ni fydd yr Americanwr Alan Gross, sy’n 62 oed, yn cael ei ryddhau. Cafodd ei garcharu ar ôl cal ei ddedfrydu’n euog o droseddau yn erbyn y wladwriaeth. Fe’i carcharwyd ym mis Mawrth eleni am 15 mlynedd ar ôl iddo gael ei ddal yn dosbarthu cyfarpar cyfrifiadurol a chyfathrebu ymysg y gymuned Iddewig yn Ciwba.

Dywedodd yr Arlywydd Castro bod ymweliad Pab Benedict XVI â Chiwba hefyd yn ffactor yn y penderfyniad i ryddhau’r carcharorion.