Mae’r asiantaeth heddlu rhyngwladol Interpol wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i arestio’r gŵr wnaeth sefydlu’r cwmni Ffrengig sydd yng nghanol y sgandal mewnblaniadau bron diffygiol.

Maen nhw’n chwilio am Jean-Claude Mas sy’n 72 oed, oherwydd, meddent, troseddau “sy’n ymwneud â bywyd ac iechyd.”

Mae llywodraeth Ffrainc wedi cynghori’r 30,000 merch yn y wlad sydd wedi cael mewnblaniad a gynhyrchwyd gan gwmni Mr Mas, Poly Implant Prothese, i gael gwared arnyn nhw. Ond mae llywodraeth Prydain yn anghytuno gan ddweud nad oes unrhyw dystiolaeth eu bod yn beryglus.

Y gred ydi fod 40,000 o ferched ym Mhrydain wedi cael mewnblaniad bron a gynhyrchwyd gan gwmni Mr Mas.