Kim Jong Il, chwith
Mae Barack Obama wedi galw am sefydlogrwydd yng Ngogledd Corea wrth i arweinydd newydd ddod i rym yn sgil marwolaeth Kim Jong Il dros y penwythnos.

Mae’r gobaith o gynnal trafodaethau rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau ynglyn â diarfogi arfau niwclear yn pylu. Mae na ansicrwydd ar hyn o bryd a fydd mab Kim Jong Il, Kim Jong Un, yn olynu ei dad fel arweinydd y wlad gomiwnyddol.

Mae Barack Obama wedi sicrhau Prif Weinidog Siapan Yoshihiko Noda bod yr UDA yn eu cefnogi ac wedi pwysleisio pwysigrwydd cynnal sefydlogrwydd yn y rhanbarth.

Bu Barack Obama hefyd yn cynnal trafodaethau gydag arlywydd De Corea Lee Myung-bak,ac mae’r Ty Gwyn hefyd wedi cysylltu â swyddogion yn China a Rwsia.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr UDA Hillary Clinton eu bod yn  “bryderus iawn” am bobl Gogledd Corea yn ystod y cyfnod anodd hwn, a’u bod yn gobeithio y bydd yr arweinyddiaeth newydd “yn gwella’r berthynas gyda’u cymdogion ac yn parchu hawliau’r bobl”.

Yn dilyn cyfarfod gyda gweinidiog tramor Siapan, Koichiro Gemba, dywedodd Hillary Clinton  bod yr UDA a Siapan yn gobeithio gwella’r berthynas gyda Gogledd Corea.