Barack Obama
Mae’r Arlywydd Obama wedi croesawu milwyr yr Unol Daleithiau yn ôl o Irac, ar ôl bron i nawr mlynedd o frwydro yn y wlad.
Wrth groesawu’r milwyr adref ddoe, dywedodd yr Arlywydd fod y milwyr yn dychwelyd “nid gyda’r frwydr olaf, ond gyda’r orymdaith olaf tuag at adref.”
Mae disgwyl i holl filwyr yr Unol Daleithiau fod wedi gadael Irac erbyn 31 Rhagfyr.
Heddiw, mae Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Leon Panetta, wedi cyrraedd Baghdad i ddod a diwedd swyddogol i’r rhyfel yno.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn roedd yr ymgyrch werth yr aberth gwaed ac arian, a’u bod wedi gosod Irac ar y llwybr cywir tuag at ddemocratiaeth.
Ond wrth i’r milwyr adael, mae’r Arlywydd Obama wedi dweud y bydd yr Unol Daleithiau, fel nifer o wledydd eraill, yn dal i helpu Irac wrth i’r wlad ddechrau ail-sefydlu ei lle yn y Dwyrain Canol.
Fe fydd cynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn seremoni arbennig heddiw wrth dynnu fflag yr Unol Daleithiau i lawr yn Irac, i nodi diwedd swyddogol yr ymgyrch.
Dechreuodd y rhyfel yn Irac yn ôl ym mis Mawrth 2003, pan aeth yr Unol Daleithiau â’i milwyr i mewn am y tro cyntaf. Erbyn diwedd 2011, mae disgwyl y bydd pob un o’r milwyr hynny wedi gadael.