Mae gwraig 60 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn farw yn dilyn tân mewn fflat.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Charmaine Court, yn St Margaret’s Road, St Leonards-on-Sea, yn Sussex am 11.30pm neithiwr.
Roedd gŵr 57 oed wedi ei ddarganfod yn farw yn y fflat, yn ôl Heddlu Sussex.
Cafodd y wraig ei chludo i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg. Ar ôl cael ei rhyddhau cafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae timau arbenigol yn ymchwilio i achos y tân. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar y dyn yn ddiweddarach heddiw.