Senedd-dy Gwlad Belg
Mae’n ymddangos fod dynion arfog yn dal â’u traed yn rhydd yn ninas Liege yn ne Gwlad Belg, lle cafodd dau eu lladd ac o leia’ 12 eu hanafu gan ffrwydron amser cinio heddiw.
Fe ymosododd y grŵp ar ymwelwyr â’r ffair Nadolig yn Liège tua 12.30pm, gan daflu ffrwydron a thanio gynnau tuag at y dyrfa.
Does dim esboniad wedi ei roi am yr ymosodiad hyd yn hyn.
Cafodd o leia’ dwsin o bobol eu hanafu, gydag adroddiadau lleol yn rhoi’r ffigwr yn llawer uwch, ar ôl i’r grŵp arfog ymosod ar sgwâr llawn siopwyr yn Place Saint-Lambert.
Ceisiodd y dynion, menwyod a phlant ddianc i lawr strydoedd canol y ddinas wrth glywed y ffrwydron – cyn i’r heddlu a’r gwasanaethau brys gyrraedd i helpu’r cleifion.
Does dim gwybodaeth hyd yn hyn ynglŷn â’r grŵp eu hunain, a does dim sicrwydd ai dau neu dri oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Ond mae sianel gyhoeddus Gwlad Belg, VRT, yn dweud fod rhai o’r grŵp yn dal â’u traed yn rhydd – ac mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol i aros yn eu cartrefi neu ddod o hyd i loches mewn siopau neu ganolfannau cyfagos.
Cafodd gyrwyr orchymyn i adael canol y ddinas yn syth gan yr heddlu, ac fe gaewyd holl siopau canol y ddinas – rhai gyda chwsmeriaid yn dal y tu fewn.
Mae hofrenyddion yr heddlu wedi bod yn cadw llygad ar y ddinas o’r awyr dros yr oriau diwethaf, a chafodd canolfan feddygol ei sefydlu heb fod ymhell o’r digwyddiad.
Ym Mrwsel, mae swyddog y Weinidogaeth Amddiffyn, Peter Mertens, wedi cadarnhau fod yr ymosodiad wedi ei gynnal gan un neu ddau o bobol, a bod o leia’ un wedi ei ladd a rhagor wedi eu hanafu.
Cafodd gwasanaethau meddygol brys hefyd eu galw o’r Iseldiroedd.
Mae un adroddiad lleol yn dweud bod tri dyn wedi taflu taflegrau i mewn i ganol tyrfa o bobol ger gorsaf bysiau ac wedi dechrau saethu tuag at y tyrfaoedd tua 12.30pm y prynhawn yma.
Mae’n debyg mai un o’r ymosodwyr oedd un o’r rhai a laddwyd, ond dyw hynny heb ei gadarnhau yn swyddogol.
Mae’r Place Saint-Lambert yn groesffordd brysur yng nghanol Liège, gyda 1,800 o fysiau yn pasio trwy’r sgwâr yn ddyddiol.
Mae’r farchnad Nadolig yno yn denu 1.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.