Mae ffermwr llaeth yn China wedi ei dedfrydu i farwolaeth am wenwyno llaeth un o’i chystadleuwyr gyda halen diwydiannol, gan achosi marwolaeth tri o blant ifanc.
Cafwyd Ma Xiuling yn euog o ychwanegu nitrite ar bwrpas i laeth cwpwl er mwyn dial yn dilyn ffraeo dros fusnes.
Yn ôl adroddiadau oredd babi mis oed a dau blentyn dan ddau wedi marw yn nhalaith Gansu.
Cafodd gŵr Ma, Wu Guangquan, ei ddedfrydu i oes o garchar am brynu’r gwenwyn.
Mae’r ddau wedi apelio.
Bu sawl sgandal am ddiogelwch bwyd yn China, ac mae’r Llywodraeth wedi gorfod body n fwy gwyliadwrus ers i’r cemegyn diwydiannol melamine gael ei ychwanegu i gynhyrchion llefrith er mwyn cynyddu‘r protein ynddyn nhw.
Yn 2008 bu farw chwech o blant a bu’n rhaid trin 300,000.