Pobol sy’n gaeth i bornograffi yw’r garfan fwya’, heblaw am alcoholics,  sy’n mynd i chwilio am help gan ganolfan arbenigol sy’n trin dibyniaeth yng Nghaerdydd.

Dyna mae sylfaenydd canolfan y ‘Stafell Fyw wedi ei ddweud wrth  Golwg yr wythnos hon.

“Yn y ‘Stafell Fyw fyswn i’n dweud bod o nesaf at alcohol,” meddai Wynford Ellis Owen.

Yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg mae dau ddyn yn son am y loes o fod yn gaeth i bornograffi.

“Os oeddwn i’n gweithio shift dydd fe fydden i’n edrych arno fe trwy’r nos. Os oeddwn i’n gweithio yn y nos fe fydden i’n edrych arno fe trwy’r dydd,” meddai un dyn sy’n cael cymorth yn y ‘Stafell Fyw.

Mae un arall yn dweud fod ei wraig a’i gydweithwyr yn gwybod am ei broblem, a bod hynny’n help.

“Mae mynd i’r gwaith a chael rhywun yno sydd yn gwybod, dyna yw fy achubiaeth. Mynd adref, mynd i dŷ fy mam-yng-nghyfraith, mae hi’n gwybod. Dyna fy achubiaeth…mae’n cadw fi ar y llwybr cul.”

 Ymchwiliad arbennig yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.