Simon Thomas
Mae angen diwygio’r drefn arholi bresennol, sy’n trin cymwysterau addysg fel nwyddau masnachol, yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru.

Gyda’r newyddion diweddar fod bwrdd arholi CBAC wedi dweud wrth athrawon beth oedd cynnwys rhai papurau arholiad, rhaid gofyn cwestiynau mawr ynglŷn â blaenoriaethau’r system, meddai Simon Thomas.

“Erbyn hyn mae’r system wedi troi’n fusnes yn ei hun,” meddai, gan ychwanegu fod angen torri lawr ar y dewis eang o fyrddau arholi sydd ar gael i ysgolion ddewis rhyngddyn nhw.

“Mae ysgolion yn gallu chwilio am yr arholiadau mwya’ rhwydd i’w hysgolion nhw,” meddai wrth Golwg 360.

Fe ddangosodd gwaith ymchwil diweddar gan bapur newydd y Daily Telegraph fod cwmnïau fel EDEXEL, sy’n cynnig papurau arholiad i Gymru a Lloegr, yn gwerthu eu hunain trwy ddweud bod eu papurau arholiad yn haws.

Mae ymchwiliad mewnol bellach ar waith gan y bwrdd arholi Cymreig CBAC, wedi i honiadau ymddangos yn y Daily Telegraph fod un arholwr hanes wedi cyfaddef ei fod yn “twyllo” wrth roi cyngor estynedig iawn i athrawon.

Roedd y papur wedi ei ffilmio’n dweud mewn seminar gydag athrawon beth fyddai pwnc y prif gwestiwn yn yr arholiad eleni, ac yn brolio y byddai’r rheoleiddiwr yn debyg o ddweud y drefn petae’n ymwybodol o’r hyn oedd yn cael ei ddatgelu.

“Mae gymaint o arian yn y system erbyn hyn, mae’r system yn bodloni ac yn bwydo ei hun,” meddai Simon Thomas, sy’n dweud bod elfennau masnachol y byrddau arholi yn amlwg iawn o’r modd y maen nhw’n gwerthu papurau arholiad ac wedyn yn gwerthu seminarau i gyd-fynd â’r arholiadau.

Rhaid newid y system yn llwyr, meddai, er mwyn darparu “cymwysterau sy’n mesur gallu disgyblion. Mae angen bo’ ni’n gallu mesur cyrhaeddiad”.

‘Llai o farchnata’

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dechrau ymgynghoriad ar system cymwysterau Cymru, ac mae Simon Thomas yn credu ei bod hi’n briodol i edrych ar newid system y byrddau arholi yng Nghymru.

“Dydw i ddim eisiau cyflwyno cyfraith yn dweud mai dim ond un bwrdd arholi dylid ei ddefnyddio, ond mae angen llai o ddewis, a llai o farchnata,” meddai wrth Golwg360.

“Dw i ddim yn meddwl ei bod hi’n bosib atal y dewis yma’n llwyr, achos holl rychwant y pynciau sy’n cael eu cynnig yng Nghymru.

“Mae’n rhaid creu system sy’n ddigonol i bob ysgol, wedi’r cwbl. Dylen ni ddim bod yn stopio cael byrddau arholi os ydyn nhw’n arbenigo.

“Ond rhaid i ysgolion beidio cael eu hariannu i siopa o gwmpas.”