Dr Elena Parina
Wrth i’r protestiadau yn Rwsia ddwyshau oherwydd honiadau o dwyll yn ymwneud a etholiadau i senedd y wlad, dywed yr ieithydd Dr Elena Parina sy’n byw ym Moscow ac sydd wedi dysgu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Moscow, bod “y twyll yn amlwg.”
Fe enillodd Rwsia Unedig, plaid y Prif Weinidog Vladimir Putin, fwyafrif o seddi gyda llai na 50% o’r bleidlais.
Ers dydd Llun, mae miloedd o brotestwyr tros ddemocratiaeth wedi gwrthdaro gyda’r heddlu yng nghanol y brifddinas Moscow ac yn St Petersburg. Cafodd o leiaf 300 o brotestwyr eu harestio ym Moscow neithiwr, a 200 mewn rali yn St Petersburg, ynghyd â 25 yn ninas Rostov-on-Don.
Dywedodd Dr Elena Parina wrth Golwg360 bod y gwrthwynebiad i’r etholiadau yn “berwi ar y we” yn ogystal â’r strydoedd yn ninasoedd Rwsia.
“Mae’r twyll yn amlwg. Mae’n bosib i chi weld canlyniadau pob gorsaf bleidleisio ar y we – yn ôl gwybodaeth swyddogol dim ond dau o bobl oedd wedi pleidleisio dros y blaid ddemocrataidd Yabloko yn fy ngorsaf pleidleisio i o tua 2,000 o bobl (roeddwn i yn eu plith) – a 77.8% wedi pleidleisio i’r blaid mewn grym. Rhyfeddol – felly mae’n debyg eu bod nhw wedi twyllo’r canlyniadau rywsut – ac mae’r we, facebook ac ati yn llawn o storiau fel hyn.
“Aeth llawer o fy ffrindiau i gyfarfod oedd wedi ei drefnu (mae’n rhaid cael caniatâd yr awdurdodau i drefnu cyfarfodydd) ddydd Llun ac roedd tua 5,000-7,000 o bobl yno. Roedd y rhan fwya yn heddychlon ond dw i’n poeni’n ofnadwy am bobl sy’n gwrthdaro gyda’r heddlu, fel yn y digwyddiadau ddoe.
“Cafodd mwy na 500 eu harestio yn ystod y deuddydd diwethaf – nid yn unig y rhai oedd yn protestio yn ymosodol ond hefyd newyddiadurwyr a phobl oedd yn digwyddodd cerdded heibio.
“Fe dreuliodd ein ffrind, y newyddiaduwr Forbes Alexej Kamenski, 22 awr yn y carchar jyst am ei fod wedi mynd gyda’r dorf o brotestwyr.
“Y pryder mawr nawr yw beth sy’n digwydd nesaf. Hoffwn i weld yr awdurdodau yn cymryd mwy o sylw o farn y bobl,” meddai.
Mae’r fideo isod yn dangos rhai o’r protestwyr yn cael eu harestio gan yr heddlu ym Moscow.