Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth wedi cyhoeddi ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth heddiw.

Wrth wneud y cyhoeddiad y prynhawn ’ma, dywedodd Carl Sargeant ei fod wedi blaenoriaethu elfennau o’r Cynllun Trafnidiaeth Genedlaethol fyddai’n helpu’r economi a mynd i’r afael â thlodi.

Dywedodd Carl Sargeant ei fod yn canolbwyntio ar wella’r cysylltiadau trafnidiaeth fel bod pobol Cymru yn gallu teithio’n rhwydd i gyrraedd eu swyddi, gofal iechyd, addysg, gofal plant, ffrindiau a theulu.

Bydd y strategaeth yn penderfynu sut dylid defnyddio’r cyllid trafnidiaeth presennol er mwyn cael y gwelliannau mwyaf effeithiol posib, a mwyaf cynaliadwy posib, i drafnidiaeth yng Nghymru hyd at 2014.

Ond mae’r Llywodraeth yn nodi fod y strategaeth yn gweithio o fewn “setliad ariannol anodd.”

Mae’r cynlluniau wedi eu targedu at ddatrys problemau trafnidiaeth “bob dydd” pobol Cymru, yn ôl Carl Sargeant.

“Wrth fuddsoddi, rydym wedi canolbwyntio ar hybu twf yr economi, a byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio contractwyr lleol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth pryd bynnag y bo modd er mwyn creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi yn lleol.”

Bydd y strategaeth yn edrych ar wella’r rhwydwaith ffyrdd, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, a chreu system rheilffyrdd modern ac effeithlon.

Mynnodd y Gweinidog nad “datganiad o egwyddorion yn unig” yw’r cyhoeddiad heddiw.

“Wrth bennu blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Genedlaethol, rydym yn nodi pa raglenni fydd yn cael eu gweithredu, a phryd, fel bod y cyhoedd yn gallu mynnu atebolrwydd a sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’n gair.”

Un o’r dyddiadau mae’r gweinidog wedi ei nodi yn ei gyhoeddiad yw bod disgwyl i fuddsoddiad o £13 miliwn ar fân brosiectau cynnal a chadw ar draws Cymru gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i’r cyllid ar gyfer y strategaeth drafnidiaeth a gyhoeddwyd heddiw ddod o ail-ddosbarthu adnoddau o fewn cronfa Llywodraeth Leol a Chymunedau Cymru ar gyfer 2011-12.