Dywed David Cameron y bydd yn gwarchod buddiannau Prydain cyn cytuno ar newidiadau i gytundeb yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd y Prif Weinidog yn teithio i Frwsel fory a dywedodd y byddai’n pleidleisio yn erbyn unrhyw newidiadau i ddiogelu dyfodol yr ewro onibai bod buddiannau’r DU yn cael eu gwarchod.

Mae nhw’n cynnwys mesurau i ddiogelu gwasanaethau ariannol Prydain oherwydd pryderon y gall y Ddinas ddioddef yn sgil unrhyw newidiadau i ddiogelu’r ewro.