Fe allai bron i hanner (45%) yr achosion o ganser mewn dynion a 40% mewn merched gael eu hatal, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae adroddiad gan Cancer Research UK yn dangos bod mwy na 100,000 o achosion o ganser bob blwyddyn yn y DU yn cael eu hachosi gan ffactorau yn ymwneud â arferion byw pobol fel ysmygu, diet gwael, alcohol a bod yn ordew.

Mae hyn yn codi i oddeutu 134,000 o achosion y flwyddyn pan mae 14 o arferion byw a ffactorau amgylcheddol yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

Smocio sy’n peri’r risg mwyaf  o ddatblygu canser, sy’n gyfrifol am 23% o’r holl achosion o ganser mewn dynion a 15.6% mewn merched.

Dywed yr elusen mai’r gwaith ymchwil yw’r mwyaf eang hyd yn hyn.

Mae un ymhob 25 o achosion o ganser yn cael eu cysylltu â swydd person, er enghraifft rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â chemegion neu asbestos, tra bod 33 yn gysylltiedig â heintiau fel human papillomavirus (HPV), sy’n achosi’r rhan fwyaf o achosion o ganser ceg y groth.

Roedd 34% o achosion o ganser yn 2010 (106,845) yn gysylltiedig â ysmygu, diet, yfed alcohol a bod yn ordew.

Mewn dynion roedd 6.1% o achosion o ganser yn gysylltiedig â diffyg ffrwythau a llysiau, 4.9% yn gysylltiedig â’u swyddi, 4.1% yn gysylltiedig â bod yn ordew a 3.5% oherwydd gwelyau haul a gormod o haul.

Mewn merched roedd 6.9% o achosion  yn gysylltiedig âbod yn ordew, 3.7% oherwydd heinitiau fel HPV, 3.6% yn gysylltiedig â gwelyau haul a gormod o haul a 3.3% yn gysylltiedig â diffyg ffrwythau a llysiau.