Makassar
Cafodd 11 o bobol eu lladd pan syrthiodd wal goncrit ar ynys Sulawesi Indonesia, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.

Dywedodd pennaeth heddlu De Sulawesi, Maj Gen Johny Waenal Usman, fod y wal 23 troedfedd o uchder wedi claddu sawl tŷ yn Makassar, y ddinas fwyaf ar yr ynys.

Roedd achubwyr wedi dod o hyd i 11 o gyrff, gan gynnwys bachgen saith oed, o dan y malurion. Roedd wyth o bobol yn yr ysbyty ar ôl dioddef o anafiadau i’w pennau a’u hesgyrn.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd. Roedd yn bwrw’n drwm pan syrthiodd y wal.