Sepp Blatter
Mae cadeirydd FIFA, Sepp Blatter, wedi dweud fod Lloegr yn pwdu am nad ydyn nhw wedi cael cynnal Cwpan y Byd 2018.
Roedd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gobeithio cynnal y bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1966.
Ond er gwaethaf ymdrechion y Prif Weinidog David Cameron, y Tywysog Williams a David Beckham, Rwsia aeth â hi.
Yn dilyn y penderfyniad mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi gwrthwynebu ail-ethol Sepp Blatter yn llywydd y corff llywodraethol.
Dywedodd Sepp Blatter wrth bapur newydd Matin Dimanche yn y Swistir fod Lloegr yn pwdu.
“Yn y 60au a’r 70au roedd y sefydliadau chwaraeon gorau yn y byd yn Brydeinig. Nid yw hynny’n wir bellach.
“Mae’r Saeson wedi colli eu grym. Ac, yn fwy diweddar, Cwpan y Byd 2018.
“Roedden nhw’n awyddus iawn, yn fwy awyddus nag oedden nhw i gael y Gemau Olympaidd. Roedden nhw’n benderfynol y dylai pêl-droed fynd ‘adref’.
“Roedden nhw’n credu fod ganddyn nhw’r hawl i’r gemau, ac roedden nhw’n sicr eu bod nhw’n mynd i ennill. Ond dim ond dau bleidleisiodd o’u plaid nhw.
“Ers hynny maen nhw wedi gwneud popeth er mwyn ceisio esgusodi colli.”