Gweilch 19–13 Munster
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth dda mewn gêm agos yn erbyn Munster yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn. Roedd y Cymry ar ei hôl hi ar hanner amser ond roedd dau gais cynnar ac amddiffyn cadarn yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth arall iddynt yn y Pro12.
Hanner Cyntaf
Methodd maswr Munster, Ian Keatley gyda dwy ymdrech gynnar at y pyst mewn deg munud cyntaf di sgôr.
Yna anfonwyd bachwr yr ymwelwyr, Damien Varley i’r gell gallio wedi chwarter awr o chwarae am ddefnyddio’i droed yn ddi angen yn ardal y dacl. Methodd Matthew Morgan un cyfle i gymryd mantais trwy fethu gyda’i gic gyntaf at y pyst cyn llwyddo gyda’i ail gynnig hanner ffordd trwy’r hanner, 3-0 i’r Gweilch.
Ond roedd Munster yn gyfartal erbyn i Varley ddychwelyd i’r cae gan i Keatley lwyddo gyda chic at y pyst yn fuan wedi ymdrech Morgan.
Ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr yn dilyn cais cyntaf y gêm. Cais braidd yn ffodus ydoedd gan i gic Will Chambers wyro oddi ar un o chwaraewyr y Gweilch yn gyfleus i lwybr Doug Howlett er mwyn rhoi cyfle hawdd i’r asgellwr sgorio. Ychwanegodd Keatley y ddau bwynt er mwyn ei gwneud hi’n 10-3.
Ond 10-6 oedd hi ar yr egwyl gan i Morgan lwyddo gyda’i ail gic bum munud cyn hanner amser.
Dau Gais i’r Gweilch
Cafodd y Gweilch ddechrau da iawn i’r ail hanner gyda dau gais yn neg munud cyntaf yr ail gyfnod. Richard Fussell a sgoriodd y cyntaf yn dilyn rhediad da Rhys Webb lawr yr asgell chwith. Ni chafodd y cais ei ganiatáu yn syth gan fod amheuaeth bod pas Webb ymlaen ond penderfynodd y dyfarnwr teledu, Paul Adams mai chwaraewr Munster, Keatley a gafodd y cyffyrddiad olaf.
Daeth yr ail o ganlyniad i feddwl a thraed chwim Webb. Cymrodd y mewnwr gic gosb gyflym ar linell 22 medr Munster gan ddal amddiffyn yr ymwelwyr yn cysgu a chroesi’r llinell i sgorio ail gais y Gweilch. Yn anffodus, methodd Morgan y ddau drosiad ond roedd y ddau gais yn ddigon i roi’r Gweilch ar y blaen o 16-10.
Tarodd Munster yn ôl gyda chic gosb gan yr eilydd o faswr, Ronan O’Gara wedi 63 munud ond adferodd Morgan y chwe phwynt o fantais yn syth gyda’i drydedd gic gosb lwyddiannus funud yn ddiweddarach.
Diweddglo Agos
Dechreuodd Munster bwyso fwy a mwy wrth i’r 80 munud dynnu at ei derfyn ac roedd sgrym y Gweilch yn gwegian. Ond llwyddodd pac y rhanbarth o Gymru i oroesi rhywsut neu’i gilydd a daliodd yr amddiffyn yn gryf er mwyn sicrhau buddugoliaeth dda, 19-13 y sgôr terfynol.
Un dyn hapus ar ôl y gêm oedd capten y Gweilch, Tom Smith:
“Fe chwaraeon ni rygbi da yn yr hanner cyntaf ac mewn rhannau yn yr ail hanner hefyd, fe dawelodd y gêm yn y chwarter olaf ond fe ddangosodd y bechgyn ddygnwch i atal Munster yn y diwedd.”
Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Gweilch yn yr ail safle yn y RaboDirect Pro12 un pwynt tu ôl i Leinster ar y brig.