Casnewydd 1–0 Lincon
Dim ond un gôl a oedd ei hangen ar Gasnewydd i drechu Lincon ym Mharc Sbytu heddiw. Sgoriodd Ismail Yakubu unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf er mwyn sicrhau ail fuddugoliaeth o’r bron yn y gyngres i’r tîm o dde Cymru.
Bu rhaid i gôl-geidwad Lincon, Paul Farman arbed ergyd Sam Foley wedi dim ond dau funud, ac roedd Foley yn ei chanol hi eto wedi 24 munud. Ei groesiad ef a ddaeth o hyd i Yakubu yn y cwrt chwech a sgoriodd yntau ei drydedd gôl mewn dwy gêm.
Er i Farman orfod arbed dwy ymdrech arall gan Foley yn yr ail hanner, y naill wedi awr o chwarae a’r llall ddeg munud o’r diwedd yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr ail gyfnod. Bu rhaid i Danny Potter yn y gôl i Gasnewydd fod ar ei orau i atal ymdrechion yr eilyddion, Jake Sheridan a Luke Medley wrth i dîm Justin Edinburgh ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Efallai na wnaeth Ismail Yakubu sgorio pedair gôl fel y gwnaeth ei ewythr, Aiyegbeni Yakubu i Blackburn yn erbyn Abertawe heddiw ond roedd ei un gôl ef yn un hynod bwysig i Gasnewydd. Roedd hi’n ddigon i sicrhau’r tri phwynt sydd yn eu codi yn glir o safleoedd y gwymp i’r deunawfed safle yn nhabl y Blue Square.