Tolley - Sgoriwr yr unig gôl
Brentford 0–1 Wrecsam

Mae Wrecsam yn yr het ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn dilyn buddugoliaeth wych oddi cartref yn Brentford heddiw. Er bod y Dreigiau yn chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr sydd ddwy adran a 42 safle yn uwch na nhw cafodd y tîm o Gymru fuddugoliaeth gofiadwy ym Mharc Griffin.

Y tîm o’r gyngres oedd y tîm cryfaf yn yr hanner cyntaf a bu rhaid i gôl-geidwad Brentford, Richard Lee arbed ymdrech Adrian Ciezlewicz hanner ffordd trwy’r hanner.

Dim ond un gôl oedd yn y gêm ond roedd honno yn dipyn o gôl ac yn ymdrech a oedd yn haeddu curo unrhyw ornest. Tarodd Jamie Tolley foli berffaith i gornel uchaf y rhwyd o 20 llath toc wedi hanner awr o chwarae i roi mantais i’r Dreigiau ar hanner amser.

Ychydig iawn o gyfleoedd a greodd y tîm cartref cyn yr egwyl ond wedi dweud hynny bu rhaid i Joslain Mayebi yn y gôl i Wrecsam wneud arbediad da iawn o gic rydd Sam Saunders i gadw mantais yr ymwelwyr.

Rhoddodd Brentford fwy a mwy o bwysau ar gôl Wrecsam wrth i’r ail hanner fynd rhagddo ond daliodd amddiffyn y Dreigiau yn gadarn phan lwyddodd Gary Alexander a Leon Legge i daro’r targed daeth Mayebi i’r adwy.

A gallai Wrecsam fod wedi mynd ym mhellach ar y blaen hefyd pe bai ymdrech din dros ben Nathaniel Knight-Percival wedi taro’r targed yn hytrach na mynd fodfeddi heibio’r postyn fel y gwnaeth hi.

Ond roedd un gôl yn ddigon i dîm Andy Morell wrth iddynt edrych ymlaen yn awr at gêm yn erbyn un o’r timau mawr gobeithio ym mis Ionawr.