Blackburn 4–2 Abertawe
Roedd pedair gôl Yakubu yn ormod i Abertawe yn erbyn Blackburn ym Mharc Ewood heddiw. Sgoriodd yr ymosodwr o Nigeria ddwy gôl ym mhob hanner wrth i’r tîm cartref guro o 4-2.
Hanner Cyntaf
Ychydig o goliau sydd wedi bod yn y rhan fwyaf o gemau Abertawe yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn. Nid yw’r Elyrch yn ildio llawer nac yn sgorio llawer chwaith, ond roedd tair cyn hanner amser yn Blackburn heddiw. Ond yn anffodus i’r tîm o Gymru y tîm cartref a sgoriodd ddwy ohonynt.
Yakubu agorodd y sgorio wedi 20 munud. Derbyniodd y blaenwr profiadol y bêl gan Gael Givet ar ochr y cwrt cosbi cyn saethu i gornel uchaf y rhwyd heibio i Michel Vorm yn y gôl i Abertawe.
Cafodd Givet ei hunan gyfle i ychwanegu’r ail ddau funud yn ddiweddarach a chafodd un arall o amddiffynnwr Blackburn, Christopher Samba ergyd toc wedi hanner awr ond arbedodd Vorm ar y ddau achlysur.
Abertawe’n Taro’n Ôl
Blackburn oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio ond Abertawe a lwyddodd i gael gôl nesaf y gêm ddeg munud cyn yr egwyl. Daeth Mark Gower o hyd i Leroy Lita yn y cwrt cosbi a pheniodd yntau heibio i Paul Robinson i unioni’r sgôr.
Ac roedd hi’n edrych mai felly y byddai hi’n aros tan hanner amser ond llwyddodd Blackburn i fynd yn ôl ar y blaen wedi dau funud o amser a ganiateir ar gyfer anafiadau ar ddiwedd yr hanner, Yakubu yn penio’i ail yn dilyn croesiad Simon Vukcevic.
Roedd Blackburn ym mhellach ar y blaen wedi deg munud o’r ail hanner wedi i Yakubu gwblhau ei hatric gyda pheniad arall.
Llygedyn o Obaith
Gyda’i dîm ddwy gôl ar ei hôl hi roedd rhai i Brendan Rodgers newid pethau a phenderfynodd ddod â’r blaenwr, Luke Moore ar y cae yn lle’r chwaraewr canol cae, Gower wedi awr o chwarae. A wnaeth hi ddim cymryd llawer o amser i Moore greu argraff, sgoriodd ei gôl gyntaf o’r tymor wedi dim ond pum munud ar y cae yn dilyn gwaith creu da Joe Allen a Wayne Routledge.
Roedd yr Elyrch yn ôl yn y gêm yn awr a chafodd Sinclair ddau gyfle i unioni’r sgôr. Ond gwnaethpwyd pethau’n anodd iddynt ddeg munud o’r diwedd wedi i Allen gael ei anfon o’r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn. Ac roedd hi’n anoddach fyth yn fuan wedyn wedi i Neil Taylor ildio cic o’r smotyn yn dilyn trosedd ar Vukcevic. Yakubu gymerodd y gic gan sgorio ei bedwerydd ef a phedwerydd Blackburn o’r prynhawn wedi 82 munud.
Cafodd Sinclair gyfle i dynnu un yn ôl yn hwyr ond arbedodd Robinson yn dda wrth iddi orffen yn 4-2 i Blackburn.
Mae’r Elyrch yn aros yn y pedwerydd safle ar ddeg yn y tabl er gwaethaf y golled ond gall Wolves neu Sunderland neidio drostynt gyda buddugoliaeth yfory ac felly hefyd Fulham sydd yn chwarae nos Lun.