Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau fod milwr o Brydain wedi ei garcharu am drywanu plentyn 10 oed yn Rhanbarth Helmand, Afghanistan.

Dedfrydwyd Daniel Crook i 18 mis mewn carchar milwrol am daro Ghulam Nabi â bidog. Roedd wedi bod yn yfed yn drwm y noson cyn ymosod ar y bachgen.

Clywodd y gwrandawiad llys fod meddygon wedi trin Daniel Crook ar ôl iddo “yfed llawer iawn o fodca” y noson cyn y digwyddiad ym mis Mawrth y llynedd.

Yn fuan wedyn gadawodd yr amddiffynfa filwrol yn Nad e Ali â dau grenâd a bidog, ar ôl i’w reiffl gael ei gymryd oddi arno.

Roedd Ghulam wedi ei anfon allan ar ei feic i fynd i nôl potel o iogwrt. Yn ôl yr erlyniad roedd y plentyn wedi poenydio Daniel Crook gan ofyn am siocled.

Gafaelodd yntau “yn ysgwydd y plentyn a’i daro yn ardal yr arennau â’i fidog”.

Cyfaddefodd Daniel Cook yn fuan wedyn ei fod wedi trywanu’r plentyn. Cafodd ei holi gan heddlu’r fyddin ond nid oedd yn gallu esbonio pam.

Digwyddodd yr achos llys ym mis Mehefin ac mae bellach wedi ei ddiarddel o’r fyddin.

Dywedodd tad y bachgen, Haji Shah Zada, 72, wrth bapur newydd y Guardian nad oedd yn deall pam fod y milwr wedi ymosod ar ei blentyn ac nad oedd wedi derbyn ymddiheuriad gan y fyddin.

Ychwanegodd fod ei fab yn parhau i ddioddef ac nad oedd wedi gallu dychwelyd i’r ysgol.

“Mae byddin Prydain yma er mwyn amddiffyn trigolion y wlad, nid er mwyn trywanu plant,” meddai.