Mae pennaeth cyfraith a threfn yn China wedi rhybuddio y gallai’r dirywiad economaidd arwain at aflonyddwch cymdeithasol yn y wlad.

Mae twf economi’r wlad wedi arafu wrth i ddirwasgiad daro gwledydd y gorllewin.

Dywedodd Zhou Yongkang o’r Blaid Gomiwnyddol fod angen i’r llywodraeth ddechrau meddwl o ddifri am ffyrdd o ymdopi â “effeithiau negyddol” yr economi.

“Mae angen i ni ddatblygu mecanwaith cyflawn er mwyn rheoli cymdeithasol,” meddai. “Dyna’r dasg fawr a brys sy’n ein hwynebu ni.”

Mae sylwadau Zhou Yongkang yn adlewyrchu pryder o fewn y llywodraeth ynglŷn â phroblemau economaidd y wlad. Mae’n rhaid i’r economi barhau i dyfu’n gyflym er mwyn gallu cynnig gwaith i’r miliynau sy’n heidio i’r dinasoedd.

Dros yr wythnos diwethaf mae ystadegau wedi dangos cwymp mewn cynhyrchu nwyddau newydd, a bu’n rhaid i’r llywodraeth lacio rheolau ar fanciau er mwyn annog rhagor o fenthyca.

Ar yr un pryd mae costau cyflogi staff yn y wlad wedi cynyddu, wrth i’r galw am nwyddau yn Ewrop syrthio.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Xinhua mae gweithredu diwydiannol a phrotestiadau ar gynnydd yn y wlad.

Cafodd pedwar o geir yr heddlu a’r llywodraeth eu dymchwel ynghanol dinas Xi-an ddoe ar ôl i’r heddlu fethu ag ymateb am oriau ar ôl i lori daro a lladd merch fach.