Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth wedi i ddyn yrru ei gar ar gae pêl-droed yn ystod gêm.
Roedd chwaraewyr, cefnogwyr a swyddogion wedi eu synnu wrth i’r gyrrwr a’i gyd-deithiwr wibio o amgylch y cylch canol gan chwerthin.
Ond mae’r heddlu yn gobeithio na fydd y ddau yn gallu dianc ar ôl i gefnogwr ddefnyddio ei ffôn symudol er mwyn tynnu llun o’r gyrrwr.
Mae’r lluniau yn dangos y dyn y tu ôl i olwyn car Mitsubishi L200 du, heb blatiau rhif, ar y cae yn y Mwmbwls yn Abertawe, De Cymru.
Roedd y Mumbles Rangers wedi bod yn chwarae yn erbyn y Kingsbridge Colts ar gae Underhill Park ar 12 Tachwedd.
“Dwn i ddim a oedd y dyn yn wallgof neu’n feddw ond fe allai rhywun fod wedi ei anafu yn ddifrifol neu ei ladd,” meddai cadeirydd Mumbles Rangers, Chris Parkin.
“Roedd 22 o chwaraewyr ar y cae a chefnogwyr ar yr ymylon ac roedd berygl y gallai’r car droi drosodd.
“Roedd y chwaraewyr a’r cefnogwyr wedi eu synnu. Daeth y gêm i ben am y tro wrth iddyn nhw syllu ar y car.
“Roedd y dyn oedd yn gyrru a’r teithiwr yn chwerthin. Gyrrodd o amgylch y cylch canol sawl gwaith a gwneud llanast o’r cae.”
Dywedodd fod y car yn mynd tua 30 milltir yr awr. Llwyddodd y tirmyn i atgyweirio’r cae fel bod y gêm yn gallu mynd rhagddo.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111