Mae llywodraeth glymblaid newydd gwlad Groeg wedi addo y byddan nhw’n cyflwyno newidiadau “dwfn ac eang” heddiw, wrth i undebau’r wlad ddechrau streic cyffredinol yn erbyn y toriadau.
Y streic 24 awr fydd yr her gyntaf gan yr undebau ers i lywodraeth Lucas Papademos gael ei sefydlu tair wythnos yn ôl.
Mae disgwyl i raliau protest gael eu cynnal yng nghanol Athen tua 11am y bore ’ma, ac mae disgwyl y bydd hanner rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus y wlad yn dod i stop.
Bydd y brotest hefyd yn cau ysgolion ac yn gadael ysbytai’r wladwriaeth heb lawer o’u staff. Does dim disgwyl i feysydd awyr gael eu heffeithio.
Mae Lucas Papademos wedi ysgrifennu llythyr at arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, Banc Canolog Ewrop, a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF), yn addo dod i gytundeb newydd i achub gwlad Groeg a chyflwyno mesurau torri costau newydd i atal y wlad rhag gorwario.
“Mae’r llywodraeth yn benderfynol o barhau â’r broses o ail-strwythuro er mwyn sicrhau cyllid cyhoeddus cadarn a gwella sefyllfa’r wlad yn y marchnadeodd rhygnwladol,” meddai yn y llythyr ddoe.
Mae gan Lucas Papademos gefngaeth y prif bleidiau Sosialaidd a Cheidwadol nawr wrth arwain y trafodaethau ar gytundeb newydd ar y ddyled, wrth i argyfwng yr Ewro ledu ar draws Ewrop.
Dan y cytundeb newydd, fe fydd gwlad Groeg yn derbyn 130 biliwn ewro yn rhagor i achub benthyciadau a chefnogi banciau.
Ddydd Mawrth, fe gytunodd gwledydd yr ewro i ryddhau benthyciad ychwanegol i wlad Groeg, gwerth wyth biliwn ewro, ynghyd â chyfraniad gan y Gronfa Ariannol Ryngwladol.
Ond mae amodau i’r benthyciad, ac fe fydd yn rhaid i wlad Groeg gyflwyno mesurau llym wrth dorri swyddi a chyflogau’r sector cyhoeddus, a threth eiddo newydd a fydd yn gadael cartrefi heb drydan os na fydd y dreth yn cael ei thalu.