Mae’r marchnadoedd arian wedi llamu’n uwch trwy’r Dwyrain Pell ar ôl i fanciau canolog y Gorllewin weithredu gyda’i gilydd i rwystro gwasgfa arall ar gredyd.

Roedd y marchnadoedd stoc wedi codi dros nod ar draws Asia ar ôl y penderfyniad ddoe gan fanciau canolog Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, Japan a’r Swistir.

Yn annibynnol arnyn nhw, fe weithredodd banc canolog China hefyd gan ollwng rhagor o arian i mewn i’r economi.

Roedd gwerth cyfrannau wedi codi o rhwng 2.4% a 5.9% yn Asia, gyda’r cynnydd mwya’ yn Hong Kong.

Mae’r penderfyniadau’n golygu y bydd hi’n haws i fanciau fenthyca arian – un o’r problemau a oedd wedi achosi’r wasgfa gredyd yn 2008.

Costau benthyg sydd hefyd yn bygwth rhai  o economïau rhanbarth yr Ewro ond gobaith y banciau yw y bydd eu gweithred yn creu hyder newydd.