William Hague
Mae William Hague yn ystyried rhagor o sancsiynau ar Iran ar ôl ffrae diplomyddol yn dilyn yr ymosodiad ar Lysgenhadaeth Prydain yn Tehran ddydd Llun.

Fe allai olygu gwaharddiad ar fewnforion o olew o Iran, a fyddai’n ergyd i’r wlad, ac mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor drafod y mesurau gydag gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd heddiw.

Ddoe roedd wedi gorchymyn Iran i gau ei llysgenhadaeth yn Llundain ac anfon eu staff yn ôl i’r wlad.

Daw’r camau diweddara ar ôl yr ymosodiad ddydd Llun gan 200 o brotestwyr.

Bu protestwyr yn chwalu ffenestri, rhoi ceir ar dân, ac yn llosgi fflag Jac yr Undeb mewn protest yn erbyn Prydain.

Mae William Hague wedi dweud beirniadu llywodraeth Iran am fethu â diogelu staff Llysgenhadaeth Prydain rhag y gwrthdystwyr, gan ddweud fod yr ymosodiad yn torri rheolau Cytundeb Fienna.

Mae gweinidog tramor Iran wedi ymddhieuro am y digwyddiad.

Dywedodd William Hague bore ma bod y sancsiynau yn ymwneud â rhaglen niwclear Tehran yn hytrach na’r ymosodiad ddydd Llun.