Lesley Griffiths
Mae Byrddau Iechyd Cymru’n wynebu pwysau i dorri ar eu gwario rhwng hyn a diwedd y flwyddyn.
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi rhybuddio’r Byrddau na fydd arian ar gael i’w helpu nhw dalu colledion ar ddiwedd y flwyddyn.
Ond, yn ôl stori gan y BBC, mae Byrddau’n wynebu colledion o gymaint â £50 miliwn eleni – Bwrdd Betsi Cadwaladr yn y Gogledd yw’r unig un sydd ar y llwybr iawn i dalu’i ffordd.
Mae Lesley Griffiths eisoes wedi dweud y bydd yn rhaid i’r Byrddau dalu eu ffordd erbyn mis Ebrill ac na fyddai’n camu i mewn i’w hachub nhw.
Fe ddywedodd un arbenigwraig iechyd y gallai gorfodi Byrddau i wneud toriadau brys arwain at benderfyniadau anghywir.
Fe fyddai penaethiaid yn torri ar wario lle y gallen nhw yn hytrach na lle y dylen nhw, meddai’r Athro Siobhan McClelland wrth Radio Wales.
Yn ôl y Ceidwadwyr, dyw’r Llywodraeth ddim yn rhoi digon o arweiniad nac arian i’r Byrddau ac maen nhw’n newid y targedau.