Ieuan Wyn Jones
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy er mwyn diogelu miloedd o swyddi ym musnesau bach Cymru, yn ôl Plaid Cymru heddiw.
Diogelu busnesau bach a chanolig (BBaCh) Cymru yw’r allwedd i ddiogelu miloedd o swyddi ar draws y wlad, meddai arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, heddiw, ac mae’n mynnu fod gan y Llywodraeth ran bwysig yn hyn.
Dywedodd fod Plaid Cymru eisiau gweld “pecyn hybu gan y llywodraeth hon fydd yn cynnwys cychwyn prosiectau adeiladu.
“Mae arnom hefyd angen mwy o gefnogaeth uniongyrchol i BBaCh,” meddai.
Heddiw, fe rybuddiodd arweinydd Plaid Cymru fod diweithdra yng Nghymru eisoes wedi cyrraedd 9.3% y mis hwn, a bod disgwyl i’r ffigwr hwnnw gynyddu tuag at y Nadolig wrth i’r argyfwng economaidd ddwysau.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 477,700 o bobol yn cael eu cyflogi gan fusnesau bach yng Nghymru.
Mae Ieuan Wyn Jones wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y ffigwr hwn o ddifri heddiw, a dod o hyd i ffyrdd i ddiogeli’r swyddi hyn yn ystod y caledi economaidd.
Buddsoddiad i arbed swyddi
Yn ôl Plaid Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno pecyn hybu economaidd, a fyddai’n cynnwys £45 miliwn o fuddsoddiad mewn cynllun Gwarchod Swyddi Busensau Bach.
Dywed y blaid y byddai cynllun o’r fath yn gallu diogelu swyddi yn 80% o fusnesau Cymru, gyda chwmniau gyda gwerth trethiannol o hyd at £18,000 yn gymwys am gefnogaeth dan y cynllun.
Yn ôl Ieuan Wyn Jones mae angen canmol ymdrechion perchnogion busnesau bach i gynnal lefelau cyflogaeth yn ystod yr argyfwng, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy i helpu cynnal y swyddi hyn yn ystod caledi pellach y misoedd sydd i ddod.
“Mae busnesau bach a chanolig yn cyflogi miloedd o bobl ym mhob ardal o Gymru – mae eu cyfraniad i’n heconomi a ffyniant ein cymunedau yn anfesuradwy,” meddai.
Os caniateir i’r argyfwng economaidd fwyta i mewn i’r busnesau hyn, yna gallai nifer enfawr o swyddi fod mewn perygl.”