Streicwyr yn Aberystwyth
Mae degau o filoedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn dychwelyd i’w gwaith heddiw ar ôl y streic fwyaf mewn cenhedlaeth.
Wrth i 170,000 o weithwyr fynd ar streic yng Nghymru, roedd 90% o ysgolion Cymru ar gau, gan gynnwys llyfrgelloedd, llysoedd, canolfanau gwaith, amgueddfeydd a nifer o wasanaethau mewn ysbytai wedi eu hamharu.
Dywed yr undebau bod y streic ddoe gan ddwy filiwn o weithwyr y sector cyhoeddus ar draws Prydain, sy’n gwrthwynebu newidiadau i’w pensiynau, yn un “hanesyddol” a’r streic fwyaf ers 1979.
Ond yn ôl y Prif Weinidog roedd y streic yn “anghyfrifol ac yn niweidiol” ac wedi cyflawni dim.
Dywedodd David Cameron nad oedd y mwyafrif wedi cefnogi’r streic, wrth iddo geisio amddiffyn y newidiadau i bensiynau’r gweithwyr.
Ond mae swyddogion y 30 undeb oedd yn gysylltiedig â’r streic ddoe wedi dweud bod na gefnogaeth sylweddol i’r streic gyda hyd at 90% o weithwyr mewn rhai sefydliadau yn gweithredu’n ddiwydiannol, rhai am y tro cyntaf erioed.
BBC yn ymddiheuro
Yn y cyfamser mae’r BBC wedi cael eu gorfodi i ymddiheuro ar ôl i Jeremy Clarkson ddweud yr hoffai weld gweithwyr y sector cyhoeddus oedd ar streic ddoe yn cael eu “saethu” o flaen eu teuluoedd.
Wrth ymddangos ar The One Show ar y BBC neithiwr, dywedodd cyflwynydd Top Gear: “Rhag cywilydd iddyn nhw fynd ar streic pan mae ganddyn nhw bensiynau sy’n cael eu sicrhau, tra bod y gweddill ohonon ni yn gorfod gweithio i ennill bywoliaeth.”
Roedd sylwadau’r cyflwynydd wedi corddi nifer o wylwyr gyda channoedd o negeseuon yn cael eu gadael ar Twitter.
Wfftio honiadau
Cafodd mwy na 1,000 o raliau eu cynnal ar hyd y DU gan gynnwys un gan ddegau o filoedd o streicwyr ynghanol Llundain.
Dywedodd Len McCluskey, arweinydd undeb Unite, bod y rali yn dangos pa mor gandryll mae gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Roedd “llond llaw” o staff Rhif 10 Downing Street hefyd wedi mynd ar streic ac roedd ysgol mab David Cameron hefyd ar gau.
Yn ôl gweinidog y Cabinet Francis Maude roedd y streic yn “anghyfrifol” ac mae wedi wfftio honiadau’r undebau nad oedd trafodaethau yn cael eu cynnal.
Dywedodd bod trafodaethau ffurfiol wedi cael eu cynnal gyda undebau’r gwasanaeth sifil ddydd Mawrth ac y bydd rhagor o drafodaethau gydag undebau’r athrawon heddiw a iechyd ddydd Gwener.