Mae grŵp o fyfyrwyr o Iran wedi ymosod ar lysgenhadaeth Prydain yn Tehran.

Yn ôl adroddiadau roedd dwsinau o bobl ifanc wedi rhywgo baner yr Undeb a thaflu dogfennau allan o’r ffenestri.

Roedd y myfyrwyr wedi gwrthdaro gyda heddlu gwrthderfysgaeth. Daw’r protest ddeuddydd ar ôl i Senedd Iran gymeradwyo deddf sy’n golygu bod cysylltiadau diplomyddol gyda Phrydain yn lleihau, ar ôl i Lundain gefnogi sancsiynau llymach yr UDA ar Tehran. Mae’n dipyn pryder cynyddol am raglen niwclear Tehran.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn ymchwilio i adroddiadau bod ymosodiad wedi bod yn y llysgenhadaeth yn Tehran ond nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.