James Murdoch
Mae James Murdoch wedi cael ei ail-benodi yn gyfarwyddwr BSkyB yng nghyfarfod blynyddol y cwmni heddiw.

Roedd 81.24% o blaid ail-benodi James Murdoch a 18.76% yn erbyn.

Roedd galw arno i ymddiswyddo oherwydd prydedron bod ei gysylltiadau gyda’r helynt hacio ffonau yn News International yn niweidio enw da BSkyB.

Roedd protestwyr oedd yn galw arno i ymddiswyddo wedi ymgynull tu allan i ganolfan y QEII yn Llundain lle roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal.

Roedd Aelodau Seneddol y Blaid Lafur Chris Bryant a Tom Watson hefyd yn y cyfarfod ac wedi addo gofyn “cwestiynau anodd”.

Yn y cyfarfod, dywedodd  dirprwy gadeirydd Nicholas Ferguson nad oedd ganddyn nhw unrhyw reswm i amau gonestrwydd James Murdoch, a bod ei gadeiryddiaeth yn gadarn iawn.

Pan ofynnodd Chris Bryant AS ynglŷn â’r helynt hacio ffonau, dywedodd Nicholas Ferguson: “Mae’r cyhoedd, y bobl yn yr ystafell yma, yn deall nad News International yw BSkyB.”

Dywedodd Guy Jubb, pennaeth llywodraethol Standard Life Investments, eu bod nhw’n pleidleisio yn erbyn ail-benodi James Murdoch, gan nad oedd yn ddigon annibynnol.

Ond mae BSkyB a nifer o gyfranddeiliad wedi bod yn gefnogol o James Murdoch yn ystod yr helynt hacio ffonau.

Yn ddiweddar fe ymddiswyddodd James Murdoch fel cyfarwyddwr News Group Newspapers, cyhoeddwyr The Sun a The Times.