Mae heddlu’r Aifft wedi gwrthdaro gyda phrotestwyr am y pumed diwrnod yn olynol yn Cairo.

Mae’n debyg  bod hyd at 38 wedi eu lladd yn y gwrthdaro hyd yn hyn.

Mae degau o filoedd o brotestwyr yn Sgwâr Tahrir wedi gwrthod addewid gan y cyngor milwrol i gynnal etholiad yn hanner cyntaf 2012.

Mae nhw’n mynnu bod y Cadlywydd Hussein Tantawi yn camu lawr ar unwaith.

Mae grwp hawliau yn dweud bod nifer y protestwyr sydd wedi eu lladd ers dydd Sadwrn bellach yn 38, naw yn fwy na’r hyn mae’r weinidogaeth iechyd wedi ei gyhoeddi.