Elyrch Abertawe yw tîm pêl-droed mwyaf poblogaidd Cymru erbyn hyn, yn ôl casgliadau arolwg barn diweddar o gefnogwyr pêl-droed.

Mae’r arolwg barn yn dangos fod Abertawe bellach ar y blaen mewn poblogrwydd i Gaerdydd, Lerpwl a hyd yn oed Manchester United.

Yn ôl yr arolwg barn gan YouGov, a gomisiynwyd gan raglen y Byd ar Bedwar, mae 20% o gefnogwyr pêl-droed Cymru nawr yn rhoi eu cefnogaeth i dîm pêl-droed Abertawe.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod 18% o gefnogwyr pêl-droed yn deyrngar i Gaerdydd, tra bod 17% yn cefnogi Manchester United, ac 14% yn cefnogi Lerpwl.

Holwyd mil o bobol led led Cymru ynglyn a’r timau pêl-droed yr oedden nhw’n eu cefnogi, gan ddod i’r casgliad fod ychydig dros hanner cefnogwyr pêl-droed Cymru, 54%, yn cefnogi clybiau o Loegr, tra bod 44% yn cefnogi timau o Gymru.

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng 16 a 18 Tachwedd, ddyddiau’n unig cyn i Abertawe fynd ben-ben â Manchester United yng ngêm uwch-gynghrair Barclays.

Colli o 1 gôl i 0 bu hanes yr Elyrch dros y penwythnos, ond mae eu dyrchafiad i’r uwch-gynghrair wedi ennill llu o gefnogwyr i dîm Brendan Rogers yn ystod eu tymor cyntaf yn yr uwch-gynghrair.