Cyflwynwyr Sgorio
Unwaith eto mae criw Sgorio wedi bod yn cadw golwg ar berfformiadau disglair chwaraewyr unigol Uwch Gynghrair Cymru dros y penwythnos. Dyma dîm yr wythnos….
Golwr
Lee Idzi (Bangor) – fel arfer caiff golwr ei gynnwys ar sail ei fara menyn: arbediadau, dyrnu a dal. Ond yr wythnos hon mae Chwaraewr y Mis y gynghrair am fis Hydref yn cael ei ddewis yn Nhîm yr Wythnos am ei gyfraniad ymosodol. Deilliodd tair o goliau Bangor brynhawn Sadwrn o giciau hir a chywir Idzi, heb anghofio iddo gadw llechen lân hefyd, am y trydydd tro mewn pum gêm.
Amddiffynwyr
Michael Johnston (Bangor) – mae’n rhaid mai Johnston yw’r chwaraewr mwyaf cyson yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae’r amddiffynnwr 23 mlwydd oed wedi chwarae pob munud o’r 71 gêm ddiwethaf i Fangor – dros gant o oriau yn olynol – yn cynnwys pob eiliad o bob gêm wrth i Fangor ennill y Bencampwriaeth y tymor diwethaf a phob eiliad y tymor hwn wrth i Fangor agor bwlch o ddau bwynt ar y brig dros yr wythnosau diwethaf.
Carl Evans (Lido Afan) – nid llawer o chwaraewyr sy’n cadw blaenwyr Seintiau Newydd yn dawel am 90 munud a doedd Evans ddim yn un o’r rheiny nos Wener. Dim ond 18 eiliad y cymerodd hi i Greg Draper roi’r Seintiau ar y blaen ond treuliodd Evans yr 89 munud a 42 eiliad oedd yn weddill o’r gêm yn cadw’r Seintiau’n dawel wrth i dîm y Lido gipio triphwynt cofiadwy.
Paul Keddle (Port Talbot) – er colli’n ddramatig yn y funud olaf ar Erddi Bastion, cafodd cefnwr chwith Port Talbot ei enwi’n yn Seren y Gêm gan Malcolm Allen. Dim ond un gêm mae Keddle wedi’i fethu i Bort Talbot y tymor hwn ac roedd ei ddoniau ymosodol yn amlwg wrth iddo chwarae rhan allweddol yn y gôl ddaeth â thîm Mark Jones yn gyfartal.
Canol cae
Kerry Morgan (Castell-nedd) – mewn wythnos gythryblus i Gastell-nedd wrth i’r tîm rheoli, Terry Boyle a Peter Nicholas, adael y clwb, roedd ’na wên ar wyneb y cefnogwyr ac ar wyneb yr asgellwr sy’n dipyn o gymeriad dros y Sul. Sgoriodd Morgan gôl gyntaf a gôl olaf – y bumed – i Gastell-nedd yn erbyn y Drenewydd, ei ail yn hanner-foli sy’n siŵr o fod ar restr Gôl y Mis.
Mark Smyth (Bangor) – enw sydd wedi ymddangos ar restr fer Gôl y Mis yn rheolaidd y tymor hwn yw enw Mark Smyth ac fe sgoriodd cyn-asgellwr Lerpwl gôl arall yn erbyn Caerfyrddin allai olygu fod ei enw ar y rhestr eto. Mae’r gemau sy’n weddill ar Ffordd Farrar yn prinhau ond mae goliau Smyth wedi rhoi eiliadau i’w cofio i’r cefnogwyr y tymor hwn.
Ross Stephens (Prestatyn) – ar ôl sgorio dwy gôl yn fyw ar Sgorio, un yn gic rydd i roi Prestatyn ar y blaen a’r llall yn gic o’r smotyn ymhell heibio’r 90 munud i gipio’r triphwynt i’w dîm. Eleni, mae Stephens eisoes wedi sgorio cymaint â’i gyfanswm drwy gydol y tymor diwethaf yn barod ac fe fydd yr asgellwr clyfar yn gobeithio cyrraedd ffigyrau dwbl i Brestatyn am y tro cyntaf y tymor hwn.
Craig Williams (Llanelli) – er ennill y Bencampwriaeth yn 2008 gyda Llanelli a 2010 gyda’r Seintiau a chwarae bron i 200 o gemau yn y gynghrair, mae ’na deimlad nad yw Williams wedi gwireddu’r potensial y gwelwyd pan sgoriodd 18 gôl o’r asgell mewn dau dymor i Lanelli fel bachgen ifanc, ‘nôl yn 2005. Ond wrth i Lanelli ddringo’r tabl i’r ail safle, mae Williams yn gwneud gwaith da’n dawel i dîm Andy Legg wrth iddo sgorio a chreu’r penwythnos diwethaf.
Ymosodwyr
Carl Payne (Lido Afan) – doedd Carl Payne erioed wedi sgorio yn Uwch Gynghrair Cymru cyn nos Wener. Roedd Lido Afan ‘mond wedi sgorio dwy gôl gartref yn wyth gêm gynta’r tymor cyn nos Wener. Ond fe newidiodd y ddau ystadegyn yn y modd mwyaf annisgwyl wrth i Lido daro tair heibio i’r Seintiau gyda Payne yn rhwydo’r gyntaf a’r olaf yn gampus. Sioc y tymor hyd yma heb unrhyw amheuaeth.
Les Davies (Bangor) – mae Davies ar drothwy carreg filltir o ddechrau 150 o gemau i Fangor ond does ’na ddim llawer o gemau wedi bod yn fwy ffrwythlon i’r blaenwr cadarn na’r ail hanner yn erbyn Caerfyrddin yr wythnos hon. Sgoriodd Davies y gyntaf gan gadw’i ben o 40 llath cyn creu’r ddwy nesaf i Mark Smyth a Neil Thomas. Perfformiad cyflawn gan un o’r blaenwyr mwyaf poblogaidd yn y gynghrair.
Lee Trundle (Castell-nedd) – mae Trundle wedi dioddef gydag anaf i’w gefn yn ddiweddar ac mae Castell-nedd wedi dioddef hefyd gyda chanlyniadau anffodus, arweiniodd at y tîm rheoli’n gadael y clwb. Fe ddychwelodd Trundle i’r tîm ddydd Sul yn erbyn y Drenewydd gyda’i hen ffrind o Abertawe, Kristian O’Leary, yn chwaraewr-reolwr dros dro. Fe enillodd Castell-nedd o bum gôl i ddim ac er nad oedd enw Trundle ar y sgorfwrdd, roedd ei gyfraniad yn gwbl allweddol i’r Eryrod – yn creu, yn gweu ac yn gwneud ffafr fawr a’i ffrind O’Leary.
Cofiwch am ailddangosiad rhaglen uchafbwyntiau Sgorio ar S4C heno am 23:05.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau unigol i’w gweld yn ein Crynodeb o Gemau’r Uwch Gynghrair erbyn canol yr wythnos.