Yr enigma Mathias Pogba (Llun o wefan CPD Wrecsam)
Gohebydd clwb Wrecsam, Huw Ifor, sy’n edrych nôl ar y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Lincoln ddydd Sadwrn.

Roedd hi’n brynhawn oer ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Roedd y dorf ychydig yn siomedig gyda dim ond 3424 yno. Er hyn roedd yn fwy na phob tîm arall yn y gynghrair ar wahân i Gaergrawnt, ac yn fwy na’r cyfartaledd mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio amdano i gadw’r blaidd o’r drws.

Roedd yr awyrgylch yn drydanol gyda chefnogwyr Lincoln a’u drwm, a chefnogwyr Wrecsam a’u drwm hwythau yn cymysgu gyda’i gilydd i greu curiad samba. Roedd yn deimlad cyffrous cael bod yno.

Amddiffyn gwych

Cychwynnodd Lincoln yn dda iawn gan ddal Wrecsam yn ôl yn ddwfn yn eu hanner.

Er yr holl bwyso doedd dim ffordd o dorri trwy’r amddiffyn. Mae 4 amddiffynnwr Wrecsam a’r golwr yn anhygoel. Mae gweddill y tîm yn dod yn ôl i helpu’r amddiffyn hefyd, ond fel y dywed cymeriad ar ‘red passion’ (safle’r cefnogwyr y clwb), alla’i ddim gweld tîm yn sgorio yn ein herbyn yn y gynghrair ar hyn o bryd.

Penbleth Pogba

Rwyf wedi dweud o’r blaen bod Pogba unai yn wael neu’n wych. Dychrynais ar ddechrau’r gêm wrth weld Pogs yn rhedeg hyd y cae i daclo chwaraewr Lincoln, ac fe fu’n gwneud hyn drwy gydol y gêm.

Wedi 11 munud fe bigodd Pogba’r bêl i fyny cyn rhedeg tua amddiffyn Lincoln a tharo ergyd am gôl. Fe darodd yn erbyn chwaraewr Lincoln a mynd i gefn y rhwyd. Gôl ragorol a gobeithio y daw mwy ganddo.

Wedi’r gôl fe reolodd Wrecsam y gêm yn llwyr, a bu ond y dim iddynt fynd dwy ar y blaen wrth i Jay Harris daro ergyd arbennig yn erbyn y trawst ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Cic o’r smotyn amheus

Roedd Lincoln yn ymosod gyda llawer o chwaraewyr heb lwyddiant ond roedd hynny’n galluogi Wrecsam i wrth ymosod a chreu cyfleoedd.

O un o’r cyfleoedd hynny wedi 61 munud fe groesodd Andy Morrell a chliriodd John Nutter (enw gwych ar beldroediwr ynde!).

Rhaid i mi wylio Sgorio nos Lun oherwydd roeddwn i yn sicr mai penio’r bêl yn glir wnaeth Nutter ond roedd Wrecsam yn cwyno ac er mawr syndod i mi fe ddyfarnwyd cic o’r smotyn i’r tîm cartref. Sgoriodd Pogba yn hyderus o’r smotyn.

Tua 10 munud yn ddiweddarach wedi gwrth ymosodiad arall roedd Jay Harris yn glir ar gôl . Byddai dyn sy’n betio wedi rhoi ei dŷ ar Harris i sgorio. Byddai’r dyn hwnnw wedi colli ei dŷ wrth i Harris roi’r bêl heibio i ochr anghywir y postyn.

Gorffennodd y gêm yn 2-0 felly, a chadwodd Wrecsam eu lle ar y brig am y tro. Yn anffodus fe enillodd Fleetwood felly does dim yn rhannu’r ddau dîm ar frig yr adran.

Rwy’n edrych ymlaen am gêm nos Fawrth ble bydd Wrecsam yn croesawu Caergrawnt yng nghwpan yr FA – gobeithio y gallwn ni ennill buddugoliaeth a fydd yn sicrhau gêm yn erbyn Brentford ddydd Sadwrn.