Scott Sinclair - ar dân yn erbyn Man U
Gohebydd clwb Abertawe, Guto Llewelyn sy’n disgrifio’r teimlad o wylio’r Elyrch yn herio un o dimau mwyaf y byd.

19 Pencampwriaeth Lloegr, 11 Cwpan domestig, 3 Cwpan Ewropeaidd – Manchester United yw clwb mwyaf llwyddiannus Lloegr a’r pencampwyr presennol.  Maent hefyd yn un o glybiau mwya’r byd, gyda dilyniant o thua 300 miliwn.   Serch hynny,  roeddent yn ymwybodol cyn cyrraedd De Cymru y byddai eu gêm yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn yn un anodd.

Cyn wynebu tîm Sir Alex Ferguson nid oedd yr Elyrch wedi colli gêm gartref ers mis Chwefror.

Ffaith ryfeddol arall oedd bod Manchester United erioed wedi ennill gêm gystadleuol yn Abertawe.  Roedd y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn hyderus o gipio pwyntiau a chreu argraff ar eu hymwelwyr.

Tensiwn cyn y gêm

Roedd awyrgylch wahanol iawn i’r arfer tu allan i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn. Bron ddwy awr cyn y gêm roedd cannoedd o gefnogwyr Abertawe a Manchester United yn aros yn amyneddgar i weld bws moethus y pencampwyr yn cyrraedd y Stadiwm.

Yn y Stadiwm cynyddodd y cyffro’n raddol wrth i’r seddi lenwi.  Canodd y côr, Only Men Aloud ambell gân i ysbrydoli torf a oedd eisoes ar bigau’r drain.

Gyda’r chwaraewyr ar fin camu i’r cae, cyflwynwyd Kenny Morgans a Sir Bobby Charlton i’r miloedd cynhyrfus.  Goroesodd y ddau arwr drychineb Munich yn 1958 a chafodd y ddau groeso cynnes a pharchus.

Dechrau addawol

Am hanner awr wedi pump roedd yn hen bryd i’r chwarae ddechrau.

Ni ddechreuodd seren canol cae Abertawe, Joe Allen, oherwydd anaf i’w goes –  er roedd yn ddigon iach i eistedd ar y fainc. Dewisodd Ferguson dîm cryf i wynebu Abertawe, gyda Ryan Giggs yn chwarae i’w glwb yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Roedd y canu’n fyddarol, a chafodd effaith ar Abertawe’n gynnar yn y gêm. Dechreuodd yr Elyrch yn frwdfrydig ac yn llawn hyder. Roeddent yn pasio’r bêl yn gelfydd ac o’r funud agoriadol roedd yr asgellwr, Scott Sinclair, yn awyddus i roi prawf ar allu amddiffynnwr Lloegr, Phil Jones.

Serch y dechrau addawol, sgoriodd y Cochion yn yr unfed funud ar ddeg.

Diffyg canolbwyntio ar ran Angel Rangel arweiniodd at gôl hawdd i Javier Hernandez. Wrth i amddiffynnwr Abertawe geisio pasio’r bêl allan o ymyl ei gwrt cosbi, llwyddodd Giggs i’w rhyng-gipio. Croesodd Giggs y bêl yn berffaith at Hernandez, oedd ar ei ben ei hun yn y canol, a rhwydodd yr ymosodwr o Fecsico.

Nerfusrwydd yn amlwg

Anghofiodd y cefnogwyr gamgymeriad Rangel gan geisio ail-ysbrydoli’r chwaraewyr. Serch hynny, trwy gydol yr hanner cyntaf methodd Abertawe gadw’r meddiant. Erbyn hyn mae tîm Brendan Rodgers yn enwog am eu pasio cywir.  Ond,  ymddangosai ambell chwaraewr unigol o Abertawe’n hynod nerfus  yn erbyn canol cae gweithgar y pencampwyr.

Scott Sinclair a Nathan Dyer oedd yr unig chwaraewyr bygythiol i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf, ond ar ôl 22 munud methodd Sinclair gyfle hawdd i sgorio.

Croesodd Wayne Routledge y bêl at Sinclair, a oedd mewn tir agored â gôl wag o’i flaen.  Yn anffodus i’r Asgellwr, methodd gysylltu’n effeithiol â’r bêl a diflannodd cyfle anhygoel i unioni’r sgôr.

Roedd yr hanner cyntaf yn un siomedig i’r Elyrch. Ildiwyd gôl flêr, methodd Sinclair gyfle euraidd i sgorio, ac roedd chwaraewyr dibynadwy megis Gower, Rangel, Taylor a Routledge yn pasio’n wallus. Ar y llaw arall roedd Sinclair a Dyer yn disgleirio yn erbyn Phil Jones a Patrice Evra.

Eilydd yn setlo’r tîm

Ni ddaeth Wayne Routledge i’r cae am yr ail hanner. Yn ei le daeth y Cymro ifanc, Joe Allen. Rhoddodd Allen gydbwysedd i ganol cae’r Elyrch ac yn syth roeddent yn fwy cyfforddus ar y bêl. Wedi 50 munud pasiodd yr Elyrch y bêl o’r dde i’r chwith, at Scott Sinclair ym mhen pella’r cwrt cosbi. Ergydiodd Sinclair tuag at y gornel uchaf ond arbedodd David De Gea’n dda.

Funud yn ddiweddarach gadawodd Patrice Evra’r cae – roedd Nathan Dyer wedi chwalu hyder un o gefnwyr gorau’r byd.

Roedd golwg llawer mwy pendant i chwarae’r Elyrch erbyn hyn. Ceisiodd Abertawe ymestyn y chwarae er mwyn creu cyfleoedd. Gwaetha’r modd,  roedd y bas allweddol gan amlaf yn un wael.

Roedd Manchester United yn gadarn yn amddiffynnol, gyda Vidic a Ferdinand yn adlewyrchu hunanddisgyblaeth ac aeddfedrwydd.

Yn y funud olaf gwrthymosododd y Cochion. Pasiodd yr eilydd, Antonio Valencia, at Phil Joes. Roedd Jones  wyneb yn wyneb â’r golwr, Michel Vorm. Ergydiodd Jones ond cafodd Vorm ddigon o gyffyrddiad i wyro’r bêl yn erbyn y postyn.  Gyda chic ola’r gêm ceisiodd Nani ddarganfod y rhwyd ond adlamodd y bêl fodfeddi i’r dde o gôl Abertawe.

Roedd yn ganlyniad siomedig i Abertawe, yn enwedig gan eu bod yn gwybod y gallent fod wedi chwarae’n well. Enillodd Manchester United oherwydd eu bod yn fwy trefnus a’n fwy proffesiynol na’r Elyrch. Bydd Brendan Rodgers yn difaru ambell gamgymeriad tyngedfennol.

Er hynny gall Clwb Pêl-droed Abertawe fod yn falch iawn. Gwyliwyd gêm ddydd Sadwrn gan dros 500 miliwn o bobl ar draws y byd ac roedd yn gyfle i gefnogwyr Abertawe ddangos eu bod yn hynod o falch o’u clwb.