Karl Slover yn 1996
Mae’r actor Karl Slover oedd wedi chwarae rhan un o’r Muchkins yn y ffilm The Wizard of Oz ym 1939, wedi marw.
Roedd yn 93 oed. Mae’n debyg iddo gael trawiad ar y galon a bu farw mewn ysbyty yn Atlanta.
Roedd Karl Slover yn adnabyddus am ei rôl yn chwarae un o’r Munchkins yn y ffilm enwog – fo oedd un o’r Munchkins lleiaf yn y ffilm.
Ar ôl iddo ymddeol fe barhaodd Karl Slover i ymddangos mewn gwyliau The Wizard of Oz ar draws y wlad.
Dim ond tri o’r 124 o actorion wnaeth chwarae rhan y Munchkins yn y ffilm sy’n dal yn fyw.