Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama a Phrif Weinidog Awstralia Julia Gillard wedi cyhoeddi cytundeb newydd a fydd yn golygu cynnydd yn nifer y milwyr o’r Unol Daleithiau yn Awstralia.

Fe fydd hyd at 250 o filwyr yn mynd i Awstralia erbyn 2012.

Dywedodd Julia Gillard y byddai’r cytundeb yn cryfhau eu cyd-weithrediad gyda’r Unol Daleithiau ac mae disgwyl i nifer y milwyr gynyddu i 2,500.

Yn ôl Barack Obama fe fydd yn cryfhau’r trefniadau diogelwch yn y rhanbarth.

Mae’r cytundeb diweddara yn tanlinellu’r pryder cynyddol am agwedd mwy ymosodol China dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gwariant China ar systemau amddiffyn wedi treblu ers y 1990au i tua £100.8 biliwn y llynedd.