Edwina Hart
Bydd y gweinidog busnes Edwina Hart yn cyhoeddi dau becyn cyllid gwerth £55 miliwn er mwyn ceisio hyrwyddo busnesau yng Nghymru.

Yn ôl y Llywodraeth, gallai’r cyllid hwn greu 5,000 o swyddi a diogelu cannoedd yn fwy.

Mae’r Gronfa Fuddsoddi SME Cymru, gwerth £40 miliwn, a’r Gronfa Twf Economaidd Cymru, gwerth £15 miliwn, yn cael eu lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw, gan ymateb, medden nhw, i’r anawsterau sy’n wynebu busnesau yng Nghymru wrth godi cyllid.

Bydd y pecynnau cyllid ar gael i fusnesau o bob maint, ac ym mhob sector yng Nghymru, medd y Llywodraeth.

Yn ôl Edwina Hart, dyma ddangos bod “Llywodraeth Cymru yn gwrando ar anghenion busnesau yng Nghymru.”

Bydd hyn yn “gatalydd ar gyfer tyfiant,” meddai’r Gweinidog Busnes, bydd yn “galluogi busnesau i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf a fydd yn creu 5,000 o swyddi newydd, ac yn diogelu cannoedd mwy.”

Dywedodd Edwina Hart fod disgwyl i’r pecyn cyllido newydd wneud gwelliannau ar y Gronfa JEREMIE Ewropeaidd, a fu’n “help i dros 350 o fusnesau ennill dros £75 miliwn o gyllid mewn ychydig dros ddwy flynedd.”

Ond dywedodd fod y Gronfa JEREMIE yn rhy gyfyngedig yn y math o gwmniau oedd â hawl i wneud cais am arian, yn ôl maen prawf y Comisiwn Ewropeaidd.

“Bydd ein cronfa newydd £40 miliwn ni yn sicrhau fod mwy o gwniau, gan gynnwys y rheiny sy’n gwerthu eu cynnyrch yn syth i’r cwsmer yn hytrach na busnesau, yn gymwys ar gyfer buddsoddiad gan Gyllid Cymru, a fydd i’w ad-dalu.

Ond mae’n dweud y bydd y Gronfa Twf Economaidd, gwerth £15 miliwn, yn cael ei ddosbarthu fel grant ar gyfer busnesau, ac na fydd angen ei ad-dalu.

Yn ôl y Gweinidog, mae’r £15 miliwn o grant yno er mwyn i gwmniau cael gafael ar “gyllid ar gyfer buddsoddiadau a fydd yn cael eu cwblhau yn 2012, ac a fydd yn creu, a chynnal swyddi.

Yn ôl y Gweinidog, dylai hyn fod yn ffordd “cyflym i gael y manteision mwyaf i’r Economi yng Nghymru yn 2012.”